PRENTIS Y MIS - RHAGFYR 2018

Connor Owen 

 

‘Dwi’n teimlo fy mod i ar y trywydd cywir.’

 

Mae angerdd mawr wastad wedi bod gan Connor at chwaraeon, yn enwedig pêl droed. Roedd ganddo obeithion mawr i fod yn chwaraewr proffesiynol, ond pan na ddigwyddodd hwn roedd yn amlwg i Connor bod angen iddo ffeindio gyrfa sy’n ymwneud â’r gêm.

Cafodd Connor ei eni yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a chafodd ei fagu yn Crosshands cyn mynychu Ysgol Maes y Gwendraeth.

Mae Connor nawr yn gweithio fel prentis chwaraeon i’r Urdd yn ardal Llanelli. Mae’n cael cyfle i deithio o gwmpas yr ardal yn darparu gweithgareddau a chlybiau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Connor yn mwynhau gallu gweithio canran uchel o’i amser yn yr awyr agored  ac yn gallu cadw pêl-droed fel rhan o’i waith pob dydd.

“Mae cael y cyfle i gael profiad o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i agor drysau i mi yn y dyfodol.”

Mae’n teimlo bod y brentisiaeth wedi ei drawsffurfio o ‘lazy teeenager’ i unigolyn cyfrifol, cydwybodol a hyderus.

Hoffai Connor i barhau i weithio yn y sector chwaraeon ac mae hefyd yn awyddus i ymchwilio mewn i waith newyddiaduriaeth chwaraeon.  Mae Connor yn cael ei ysbrydoli gan ei Dad-cu oedd yn chwaraewr a hyfforddwr drwy gydol ei fywyd, ac felly mae hyn yn rhoi ysfa i Connor i barhau i weithio’n galed a datblygu mewn i unigolyn cyflogadwy.