Ystafell_Gyfarfod_8_paint.jpg

Ystafelloedd Cyfarfod

Yn ogystal â darparu llety mae gan y Gwersyll gyfleusterau cynadledda a chyfarfod ar gael i’w llogi.  Mae cysylltiad diwifr a’r wê a system awyru ar gael ym mhob un o’n hystafelloedd. Gallwn drefnu cymorth technegol a TG ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac mae modd llogi cluniaduron yn ogystal. Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i ganol y ddinas a chysylltiad cyfleus i’r M4, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn lleoliad delfrydol ac unigryw ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Mae’r ystafell gyfarfod yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau hyd at ddeunaw mewn nifer sy’n edrych am leoliad proffesiynol i gynnal cyfarfod neu gyfweliad. Ceir offer fideo a ffôn gynadledda yn yr ystafell gyfarfod.

Ynghyd â’r ystafell gyfarfod mae gennym ddwy ystafell ddosbarth addas y gellir defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, a cheir bwrdd gwyn rhyngweithiol ymhob ystafell sydd yn berffaith ar gyfer cyflwyniadau neu/a sesiynau dysgu. 

Bwyd

Mae gan y Gwersyll neuadd fwyd sy’n gweini brecwast, cinio a swper.

Gall y Gwersyll ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion bwyd, dietegol neu grefyddol. Gellir trafod yr holl ofynion yma gyda ni.

Os yn mynychu’r Gwersyll ar gyfer cyfarfod gallwn ddarparu lluniaeth ar gyfer digwyddiad o unrhyw faint.  Mae ein bwydlen yn cynnig dewis eang o luniaeth, boed hynny’n baned a bisged neu’n bryd bwyd tri chwrs.

Neuadd_9_Copy.jpg

Y Neuadd

Mae’r neuadd yn ystafell amlbwrpas sy’n addas ar gyfer pob math o ddigwyddiadau megis perfformiadau theatr a dawns, cynadleddau busnes, seminarau hyfforddi, neu ymarferion cerddorfeydd a chorawl. Ar ffurf theatr gellir eistedd hyd at 153 o bobl. Mae goleuadau theatr, system sain a thaflunydd digidol ar gael yno.

Llety

Mae ein ystafelloedd aml-wely yn berffaith ar gyfer cynadleddau a chyrsiau hyfforddiant corfforaethol a gallwn drafod pecynnau llety addas i ateb eich gofynion.  Gall hyd at 153 aros ar gwrs preswyl ac mae ein cyfleusterau cyfarfod, sy’n cynnwys neuadd gynhadledd ac ystafelloedd hyfforddiant, yn gweddu’n berffaith i’r cyfleusterau yma.