Penwythnosau Rygbi

Mae Gwersyll Caerdydd ar agor i'r cyhoedd yn ystod penwythnosau gemau rygbi Cymru

Os ydych chi'n chwilio am lety perffaith ar gyfer y gemau rygbi, yna Gwersyll Caerdydd yw'r dewis gorau i chi. Mae ein hostel 4 seren 20 munud a'r droed o stadiwm Principality a chyffro’r Brifddinas ar ddiwrnod gêm.

Mae gennym ystafelloedd sy'n addas ar gyfer unigolion, teuluoedd, neu grwpiau bach.

Bydd ein tîm cyfeillgar ar gael i'ch cynorthwyo ac i wneud eich arhosiad yn un cofiadwy.

Rydym ar agor ar y nos Wener a Sadwrn.

Dewch i fwynhau'r profiad rygbi yng Nghaerdydd ac arhoswch gyda ni yma yng Ngwersyll Caerdydd!

 

 

 

 

Nol