Mae cyfanswm o dri Prosiect Plethu eleni, gwyliwch a mwynhewch rhain fan hyn!

 

Sosban Fach

Dyma'r cyntaf o dri Prosiect Plethu eleni. Mae'r band Dros Dro o Sir Gaerfyrddin wedi cydweithio â'r cerddor Lewys Wyn i greu trefniant newydd sbon o Sosban Fach. Mae'r prosiect, sydd wedi'i ysbrydoli gan waith tin Tinopolis yn defnyddio cit drymiau sydd wedi'i greu o sosbenni gan gwmni Tarian. Mwynhewch y fersiwn unigryw yma o'r hen glasur!

Sosban Fach: Siwrne'r Plethu

#FelMerch - Rygbi x Cerdd Dant

Beth sydd gan rygbi a cherdd dant yn gyffredin? Dyma brosiect sy’n cyfuno y ddau, fel rhan o brosiect celfyddydol #FelMerch yr Urdd. Gyda geiriau Eurig Salisbury, a threfniant Nia Clwyd, mae’r tîm rygbi merched wedi creu dawns i gyfeiliant y delyn. Cais!

#FelMerch - Siwrne'r Plethu

Pyped Myrddin x Merched Sir Gâr

Dyma ail brosiect plethu eleni. Ar gyfer y prosiect yma, mae myfyrwyr o Brifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cyd-weithio gyda'r artist a'r pypedwr Rhianna Yates i greu pyped anferth o'r Dewin Myrddin. Dyma'r un pyped oedd yn tywys yn ystod Chwilio'r Chwedl, cynhyrchiad agoriadol Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2023.

Gwyliwch y pyped trawiadol yma yn crwydro ei ardal i gyfeiliant can newydd sbon gan ferched Sir Gar, a grëwyd mewn gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig gydag Adwaith a Hana Lili!