Gwyliau i bobl ifanc sy'n chwilio am antur yn un o leoliadau gwefreiddiol gogledd Cymru

 

Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.

Anturio yn y Gymraeg ar ei orau! Os ydi dringo creigiau uchel yn y bore, SUP’s yn y prynhawn a cherdded i gopa un o fynyddoedd Eryri  i wylio’r haul yn machlud yn swnio fel hwyl, dyma'r gwyliau i chi.

Y bore wedyn fe allwch fod yn profi gweithgareddau fel cerdded afon, sialensiau'r cwrs rhaffau cyn croesi’r llyn.

Gyda’r niferoedd wedi eu cyfyngu, sicrhewch eich lle mor fuan â phosibl. Bydd yr anturiaethau hyn i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd 9 a 10. Cymraeg yw iaith y cwrs.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Llun 27 tan ddydd Iau 30 Gorffennaf 2026

Pa mor hir mae'n para?

4 diwrnod, 3 noson

Pris

£269 (cwrs 3 noson) ar gyfer aelodau'r Urdd.

Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Blaendal o £50  - Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Bws

Gellir darparu bws yn ol y galw am gost ychwanegol. Ffurflen archebu bws yn fyw mis Mawrth ymlaen

Llety

Bydd criw Anturdd i’r Eithaf yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol.