Amdanom ni

Mae'r Urdd yn hynod o ffodus o'u gwirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser i gefnogi gweithgareddau’r Urdd. Mae hyd at 10,000 o bobl yn gwirfoddoli i'r Urdd bob blwyddyn. Yn feirniaid Eisteddfod, yn hyfforddwyr pêl-droed, cerdd dant neu lefaru, yn athrawon, rhieni, cyn-aelodau, arweinwyr aelwyd neu’n bobl ifanc... Hebddynt, ni fyddai’r Urdd yn bodoli yn ei ffurf bresennol, ac mae ein diolch iddynt yn ddirfawr. Os hoffech gefnogi gwaith yr Urdd yn eich ardal leol...

Gwirfoddoli Chwaraeon

Mae'r Urdd wedi datblygu system newydd ar gyfer gwirfoddoli o fewn y sector chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys tri llwybr gwirfoddoli.

DARGANFOD MWY