Sgwrs Gyda Llio Roberts - Prentis y mis, Ebrill 2021

 

Mae Llio Roberts yn dod o Landrillo ger y Bala. Fe aeth i Ysgol Gynradd Llandrillo ac yna i Ysgol uwchradd Y Berwyn. Yna, fe aeth i’r chweched dosbarth yn Ysgol Dinas Bran. Mae hi ar ei ail flwyddyn yn astudio prentisiaeth lefel 3 yn y sector Awyr Agored yng ngwersyll Glan-llyn. Dyma ychydig o’i hanes...

 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Pan oeddwn yn y chweched dosbarth, cefais gyfle i fod ar fforwm yr Urdd a threfnu gigs yn yr ysgol, felly roedd gennai brofiad o wirfoddoli i’r mudiad yn barod. Roeddwn eisiau ennill profiad yn y byd gwaith mewn maes dwi'n ymddiddori ynddo ac roedd y syniad o weithio ac ennill cymwysterau yr un adeg yn denu.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Rwyf yn mwynhau gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a gweithio ag amrywiaeth o gyfranogwyr a chyd-weithwyr sydd â phrofiadau gwahanol. Rwyf hefyd yn mwynhau gallu gweithio gyda phobl wahanol o feysydd gwahanol o fewn yr Urdd.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac rwy’n hyderus a’n gyfforddus i weithio ac arwain sesiynau drwy’r iaith, felly mae cael swydd ble caf ddefnyddio’r iaith yn grêt.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Rwy’n mwynhau cadw’n iach drwy gwneud nifer o weithgareddau gwahanol gan gynnwys, dringo mynydda a chwaraeon tîm megis pêl-droed a phêl-rwyd. Rwyf hefyd yn hoff o wylio ‘Friends’ ar netflix!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Dwi’n teimlo fy mod wedi ddatblygu fy hyder a hefyd wedi dysgu’r sgil o weithio fel aelod o dîm yn llwyddiannus, gan ein bod yn gweithio’n agos iawn hefo’n gilydd yng Nglan-llyn. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i ennill cymwysterau sydd yn cael ei gydnabod yn fyd-eang.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rwy’n gobeithio parhau i weithio yng Nglan-llyn fel hyfforddwr ac yna yn y pendraw, mynd i’r brifysgol, er dwi ddim yn siŵr beth dwi am astudio eto!

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Mae llawer wedi newid o fewn fy rôl o ganlyniad i COVID-19, gan gynnwys sicrhau bod y safle yn ddiogel i bawb. Erbyn hyn, gyda rheolau’n codi rydym yn ôl yn arwain sesiynau mewn ysgolion a gweithgareddau yng Nglan-llyn.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Profiadau, bythgofiadwy, Hwyl!