Pam trefnu taith i Langrannog?

 

Beth yw'r budd addysgiadol o drefnu trip i Langrannog?

Ers 1932 mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn gweithredu ar yr ethos o Ddysgu Trwy Weithgaredd, a chredwn yn gryf fod yr wythnos yma wedi profi yn effeithiol wrth gynorthwyo â datblygiad a hunan hyder unigolyn. Yn wir nid oes gwell ystafell ddosbarth na Gwersyll Llangrannog! Rydym yn manteisio yn llawn ar ein hamgylchedd a’n hanes diwylliannol i greu ystod eang o gyrsiau. Mae awyrgylch unigryw Gymreig y Gwersyll yn gwneud e’n lleoliad delfrydol ar gyfer cyrsiau iaith, a dyma yn bennaf pam mae 96% o ysgolion yn gweld gwelliant yn agwedd eu disgyblion tuag at yr iaith a diwylliant wedi ymweld. Mae dwyieithrwydd yn rhan allweddol o’r Gwersyll ac yn cael ei cyflwyno fel rhan o gefndir cyrsiau ehangach boed yn gyrsiau Hwyl, Daearyddiaeth, Llen, Llun neu Hanes.

Mae’r Gwersyll wedi cyhoeddi ein Datganiad y Cwricwlwm, hyderwn y bydd y ddogfen yn amlinellu gwerth ymweliad a Gwersyll yr Urdd Llangrannog fel rhan bwysig o’r broses dysgu, ac yn hynny o beth yn rhoi hyder a chefnogaeth i’r athrawon hynny sy’n awyddus i wneud defnydd helaethach o ddysgu ‘y tu allan i’r ystafell Ddosbarth’.


Pa raglen gweithgareddau allwn ni ei ddisgwyl?

Rhan amlaf cynnigwn cyrsiau 2 noson, 4 noson neu phenwythnos.

Wedi dewis dyddiadau, gyda chymorth ein cydlynnydd cyrsiau mi allwch fynd ati i drefnu eich cwrs i sicrhau eich bod yn ateb eich gofynnion eich cynlluniau dysgu. . Mi fydd rhaglen yn cael ei chreu o 9.00yb tan 10.00yh

Mae yna lu o weithgareddau i ddewis ohonynt wedi eu staffio gan aelodau o staff profiadol a chymwysiedig. Mae hefyd modd trefnu mewn partneriaeth a cwmniau lleoli i wneud gweithgareddau afon a mor megis, canwio, syrffio, cerdded afon (am gost ychwanegol).

Pan nad yw'r tywydd yn ffafriol mae gweithgareddau dan do gennym i gadw pawb yn glud, er mae nifer o'r gweithgareddau hyd yn oed yn well yn y glaw!

Mae pob weithgaredd yn gallu cael ei haddasu i anghenion arbennig.

Gyda'r nos bydd rhaglen o weothgareddau amrywiol i'w mwynhau, a staff ar gael i gynorthwyo.

Sut allwch chi helpu?

Rydym yma i'ch gynorthwyo ymhob cam o'r broses!

Dyma ambell i beth y gallwn gwneud i'ch helpu ...

  • trefnu trafnydiaeth ar eich rhan
  • eich cynorthwyoi hyrwyddo'r cwrs i rieni boed trwy ymweliad i'r ysgol, taflenni gwybodaeth neu templed o lythyr
  • anfon cardiau casglu arian i'r ysgol
  • anfon ffurfflenni gwybodaeth defnyddiol i rhieni

Os hoffech unrhyw gymorth o gwbwl plis peidiwch oedi rhag cysylltu.