Ein gweledigaeth y tu hwnt i Gymru.

 

 Mae'r Urdd wedi meithrin 4 miliwn o ddynion a menywod ifanc i fod yn falch o'u gwlad, yn agored i'r byd ac yn  ymgorfforiadau byw o'u hiaith a'u diwylliant, ynghyd â'r gwerthoedd cyffredinol yr ydym yn eu gwerthfawrogi yng Nghymru.

 Mae'r Urdd yn sefydliad hollol allweddol ym mywyd Cymru, yn  gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, y BBC, WRU, Gemau'r Gymanwlad, S4C, Wales Arts International i enwi ond rhai.

 Rydyn yn sicrhau mentrau llwyddiannus i bobl ifanc ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ein gwaith yn rhyngwladol trwy brosiectau yn yr UDA, Kenya, Seland Newydd, Iwerddon, Brwsel, Camerŵn, Awstralia, Japan, Patagonia a mwy. Rydym am barhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid i adeiladu ar stori Cymru fel cenedl llwyddiannus, hyderus, fywiog ac agored.

 Mae gan yr Urdd gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru yn cael effaith gadarnhaol, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am Gymru, yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc ac yn dathlu cyfoeth diwylliannol Cymru.

 Mae'r Urdd yn sefydliad unigryw yn y byd, ac rydym am greu pobl ifanc sy'n ymwybodol o’r byd y tu hwnt i Gymru, , ac fe gredwn y gallwn ni gyda’n gilydd dorri tir newydd gan amlygu:

 • beth sy'n unigryw i Gymru

 • ffordd o weithio sydd wrth wraidd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

 • bod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang

 Rydym yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, ac mae’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn parhau.

Prosiectau Diweddar

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu'r Urdd yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng pobl ifanc Cymru a phobl ifanc ledled y byd. Dyma fwy am ein gwaith rhyngwladol diweddar.

Dwyrain Canol

Mae ambell daith wedi bod i'r Dwyrain Canol yn ddiweddar, yn cynnwys prosiectau Cwpan y Byd Pêl droed a twrnament Dubai 7's!

DYSGU MWY

Ewrop

Darllenwch mwy am brosiectau gwych yr Urdd sydd wedi cymryd rhan ar draws Ewrop yn ddiweddar

DYSGU MWY

Gogledd America

Darllenwch am deithiau gwych yr Urdd i ogledd America - rhai'n deithiau cerddorol, rhai'n addysgiadol ac yn rhan o Neges Heddwch 2023

Dysgu mwy

Seland Newydd

Rhagfyr 2022

Tîm Rygbi 7 bob ochr yr Urdd yn teithio i Auckland, Seland Newydd ar gyfer y World School Sevens.

Dysgu mwy

Affrica

Darllenwch am ein teithiau i Affrica, sy'n cynnwys ymuno a gŵyl Affricanaidd a chynnal prosiect Chwarae yn Gymraeg

Dysgu mwy

Awstralia

Bu prentis ac aelod o staff yr Urdd yn  Awstralia yn cynnal gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Haf Gymraeg Sydney.

Dysgu mwy

Japan

Ym mis Hydref 2019 bu’r Urdd yn rhan o daith fasnach a diwylliant Llywodraeth Cymru i sefydlu cysylltiadau rhwng ieuenctid Cymru a ieuenctid Japan.

Dysgu mwy

Patagonia

Mae gan yr Urdd berthynas arbennig gyda Phatagonia ac ers 2008 mae dros 300 o bobl ifanc wedi ymweld â'r Wladfa gyda ni.

Dysgu mwy