Cyfleusterau

Mae gan y gwersyll nifer o gyfleusterau sydd yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc, teuluoedd a digwyddiadau busnes.

Llety

Mae gan y gwersyll 55 o ystafelloedd gwely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech neu wyth. Gallwn dderbyn hyd at 250 o wersyllwyr ar y tro, gydag oddeutu 40 o’r gwlâu hyn wedi eu penodi ar gyfer arweinyddion. Rhannir y rhain ar draws 5 bloc llety, a all ei rhannu i 7 ardal llety unigol.

Parlwr cyfforddus yn yr hen Blas
Parlwr cyfforddus yn yr hen Blas

Ardaloedd Cymunedol

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Gallwn weini eich bwyd yn y caban bwyta neu eich ystafell gyfarfod
Gallwn weini eich bwyd yn y caban bwyta neu eich ystafell gyfarfod

Bwyd

Darperir brecwast, cinio, te a swper gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gall y gwersyll ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gan y gwersyll nifer o ystafelloedd cyfarfod sydd yn amrywio mewn maint a phwrpas defnydd. Gall ein deg ystafell gyfarfod dderbyn rhwng 10 a 250 o ymwelwyr, sy’n golygu y gallwn gynnal cyfarfodydd bach neu gynadleddau o bob maint. Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnwys taflunydd, teledu gyda chysylltiadau i gyfrifiadur a chynhadledd fidio a ffôn.