Cyfarwyddiadau

Lleoliad Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Sut i gyrraedd

Saif Gwersyll Glan-llyn ar yr A494 wrth ymyl Llyn Tegid, 4 milltir o dre’r Bala ac 1 milltir o bentref Llanuwchllyn

O gyfeiriad Dolgellau

Dilynwch yr A494 i gyfeiriad y Bala. Ar ôl 13 milltir byddwch yn pasio pentref Llanuwchllyn gyda garej ar eich chwith. Mae’r ffordd yn croesi pont ac yn troelli am filltir. Pasiwch rhes o dai ar y chwith a chiosg teleffon ar y dde. Mae mynediad Glan-llyn ar ben y llethr ar yr ochr dde yng nghanol y coed. Ceir arwyddion brown.

O gyfeiriad Y Bala

Dilynwch yr A494 i gyfeiriad Dolgellau gyda’r llyn ar eich chwith.  Ar ôl tair milltir a hanner mae’r ffordd yn troi i’r dde yn naturiol ac yna i’r chwith, gan godi ychydig. O’ch blaen, fe welwch ardal goediog ar ddwy ochr y ffordd.  Mae Gwersyll Glan-llyn ar eich chwith, yn y coed, Ceir arwyddion brown.