Mae Leah Williams yn dod o’r Rhondda ac yn gynorthwyydd dosbarth yn ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Fe wnaeth Leah cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau Lefel 2 gyda’r Urdd llynedd, ac roedd hi’n awyddus iawn i ddatblygu ei sgiliau ymhellach. Fe wnaeth hi penderfynu felly, i gymryd y cyfle i ymgymryd â phrentisiaeth chwaraeon Lefel 3.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Rydw i wir yn mwynhau gwersi ymarfer corff. A daeth cyfle i fyny i ymestyn fy sgiliau a dysgu rhywbeth newydd. Cymerais y cyfle gyda dwy llaw.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd? 

Rydw i wastad wedi cael diddordeb mewn addysg gorfforol, ac mae’r brentisiaeth wedi rhoi llawer o sgiliau newydd i mi ychwanegu i’m swydd nid yn unig yn chwaraeon ond yn y dosbarth hefyd.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Gyda dau plentyn does dim llawer o amser rhydd gen i! Ond, rydw i wrth fy modd yn gwylio rygbi a gwneud ioga! 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae’r brentisiaeth yma wedi codi fy hyder wrth gynllunio gwersi a rhedeg clwb rygbi.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Rydw i’n gobeithio gwneud fy lefel 4 cynorthwyydd dysgu

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Newydd, her , cyffroes

Dywedodd asesydd Leah, Jess: ‘Mae Leah wedi dangos cymhelliant ac ymrwymiad i'r cwrs ers y dechrau. Mae’n berson sy’n bwrw ymlaen gyda'u gwaith ac yn awyddus i gwblhau pob tasg. Mae datblygiad Leah wedi mynd o nerth i nerth o wneud lefel 2 Arwain Gweithgareddau a nawr Lefel 3 Datblygu Chwaraeon. Nid yw unrhyw beth yn ei rhwystro - mae'n hyderus ac yn frwdfrydig gyda phopeth sydd yn cael eu rhoi iddi. Fel asesydd, mae'n bleser i weithio gyda Leah!'