Ymweliad undydd Ysgolion

Mae Gwersyll Caerdydd yn cynnig ymweliadau diwrnod neu hanner diwrnod i Ysgolion cynradd ac uwchradd.

Medrau Meddwl a Datrys Problemau

Rhan allweddol o'r diwrnod yw datrys problemau a gweithio mewn rhan o dîm. Mae natur y gweithgareddau yn hybu unigolion i gyfrannu at dasgau, gwneud penderfyniadau, a defnyddio ystod o fedrau meddwl. Mae’r gweithgareddau yn galluogi ‘r disgyblion i gael dealltwriaeth ddyfnach o feysydd, bod yn fwy beirniadol o dystiolaeth, llunio barn, a gwneud penderfyniadau rhesymegol yn lle neidio i gasgliadau.

 

Iechyd a Lles

Un o brif amcanion y diwrnod yw hyrwyddo iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae lles yn cynnwys iechyd corfforol da, teimladau o hapusrwydd a gweithrediad cymdeithasol llwyddiannus. Mae’r gweithgareddau’n dylanwadu ar y ffordd mae plant yn rhyngweithio yn ei hamgylchedd ac yn gwneud y mwyaf o’u potensial dysgu.

Diwylliant Cymreig

Mae’r gwersyll wedi’i leoli yng nghanol cyffro a bwrlwm Bae Caerdydd. Gyda rhai o brif atyniadau ar garreg ein drws, mae’r diwrnod yn rhoi profiadau gwych i ddisgyblion gofleidio ei treftadaeth a’u traddodiadau Cymreig. Wrth weld adeiladau adnabyddus megis y Senedd a Chanolfan y Mileniwm bydd disgyblion yn cael cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant a hanes Cymru fydd yn cryfhau eu teimlad o hunaniaeth a chenedlaetholdeb.

 

Siarter Iaith

Y Gymraeg yw prif gyfrwng goll fywyd a gweithgarwch y Gwersyll. O ganlyniad, bydd y diwrnod yn ateb llawn o ofynion y Siarter Iaith. Mi fydd y taith i Wersyll yr Urdd Caerdydd yn helpu meithrin hyder ac yn gyfle i weld y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio’n naturiol. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod y Gymraeg yn hwyl ac yn adnodd naturiol i blant o phobl ifanc drwy weithgareddau unigol a thîm.

 

Pris?

Gemau

2 awr o weithgareddau adeiladu tîm a gemau

Grwpiau hyd at 24 o blant: £175

Grwpiau 25-50 o blant: £300

 

Taith llwybr arfordir gyda tywyswr

Taith cerdded 3 milltir, tua 2 awr o hyd yn cynnwys gweithgareddau grŵp.

Grwpiau hyd at 24 o blant: £150

Grwpiau hyd 25-50 o blant: £250

 

Cysyllwch am bris i grwpiau mwy na 50 mewn nifer. 

 

I archebu, cysywllt gyda caerdydd@urdd.org

 Am fwy o wybodaeth neu i drafod dyddiadau a phrisoedd cysylltwch â ni!

Nol