Iechyd a Diogelwch

Er bod y rhan helaeth o athrawon yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant ac ieuenctid, ac yn rhan pwysig o’u datblygiad personol, deallwn fod nifer fawr yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol presennol. Rydym yng Ngwersyll Llangrannog yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Rydym yn ymfalchïo yn ein record Iechyd a Diogelwch, a chredwn dyma un o’r rhesymau y mae 85% o’n hymwelwyr yn dychwelyd i aros yn y Gwersyll. Mae strwythurau pendant eisoes mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant ac athrawon/oedolion yn ystod eu harhosiad. Isod ceir amlinelliad o’n systemau diogelwch.

Isod ceir amlinelliad o’n systemau diogelwch

  • 3 Atalfa Ddiogelwch a system CCTV
  • Gwylwyr Nos
  • BCT - Mae pob aelod o staff wedi mynd trwy broses Biwro Cofnodion Troseddol (Archwiliad manwl)
  • Staff cymwysedig ar y gweithgareddau. Mae’r Gwersyll wedi derbyn statws ‘Buddsoddwyr Mewn Pobl’ a hefyd wedi ennill ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng ngwobrau Cwlwm Busnes Ceredigion 
  • Diogelwch Tân. Cynhelir dril tân cyn gynted â phosib wedi i’r plant gyrraedd y Gwersyll. Darperir ystafelloedd â larwm dân weledol i bobl â nam clyw
  • Cymorth Cyntaf - Swyddogion Cymorth Cyntaf llawn ar alwad 24 awr y dydd
  • Ystafell Cymorth Cyntaf pwrpasol a man cadw meddyginiaeth o dan glo
  • Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
  • Systemau pwrpasol mewn lle ar gyfer alergeddau bwyd. Darperir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol
  • Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
  • Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch