Sgwrs gyda Elin Roberts

Prentis y Mis, Hydref 2022

Merch o Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn, yw Elin Roberts. Mae Elin wedi cael ei dewis fel Prentis y Mis, mis Hydref yn dilyn ei gwaith caled yn mynd ati i gwblhau ei chymhwyster Sgiliau Hanfodol, ochr yn ochr â'i phrentisiaeth Gofal Plant.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy brentisiaeth?

Rwy'n mwynhau bod dim un diwrnod yr un fath ac rwy'n gallu ennill cyflog wrth ddysgu sgiliau newydd a chael cymwysterau ar y diwedd.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Rwyf yn hapus fy mod yn gallu gwneud prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg gan mai dyna yw fy iaith gyntaf.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae wedi fy helpu i godi fy hunan hyder a datblygu sgiliau cyfathrebu a thechnoleg.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Dwi'n gobeithio cael swydd llawn amser bydd yn fy ngalluogi i ddefnyddio'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu drwy gydol fy mhrentisiaeth.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth?

Cefais gynnig gwaith yn gweithio gyda phlant ac roedd angen i mi wneud cymwysterau i gyd fynd ag ef, ac yna daeth y cynnig i mi wneud prentisiaeth gyda'r Urdd.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Cynorthwyo'r arweinydd gyda dyletswyddau sydd angen ei gwblhau yn y dosbarth.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

PROFI PROFIADAU NEWYDD!