Sgwrs gyda Elin Hâf Darnell

Prentis y Mis, Mawrth 2022 

 

Mae Elin Darnell yn wreiddiol o Bodelwyddan, ond bellach yn byw yn Abergele. Fe chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Dewi Sant ac yna Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Mae Elin yn brentis ‘Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant’ drwy bartneriaeth gyffrous rhwng y Mudiad Meithrin a’r Urdd. Dyma ychydig am ei gwaith a’i ddiddordebau!

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Mudiad Meithrin?  

Doedd gen i ddim cymwysterau sydd yn ymwneud â gofal plant pan ddechreuais i weithio yn y Cylch Meithrin, felly penderfynais gwneud y brentisiaeth i ddatblygu fy ngyrfa ac i helpu dysgu y genhedlaeth nesaf. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd? 

Mae yna sawl agwedd o fy swydd dwi’n mwynhau - o weld wynebau hapus y plant yn y bore, i glywed nhw yn canu caneuon Cymraeg drwy’r dydd. Mae’n deimlad hynod werth chweil a boddhaus gwybod fy mod i yn helpu i fagu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg. Mae’r brentisiaeth wedi effeithio’n bositif ar fy mywyd gwaith, gan ei fod wedi rhoi’r sgiliau a’r gwybodaeth i mi gael dealltwriaeth ddyfnach o sut i ofalu am blant ifanc yn iawn, drwy gadw eu urddas a pharchu eu dymuniadau nhw. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Mae'n hynod o bwysig i mi oherwydd sylwais doeddwn i ddim yn siarad cymaint o Gymraeg ag y dylwn fod, er fy mod i yn ei siarad adref. Fe wnaeth hyn ddigwydd ar ôl i mi adael yr ysgol uwchradd a gadael lleoliad Cymraeg. Rwyf wedi sylwi fy mod yn medru canolbwyntio'n well. Dwi hefyd wedi sylwi bod safon fy Nghymraeg wedi gwella a dwi'n sylwi fy mod hyd yn oed yn siarad gyda fy hun yn y Gymraeg nawr. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Fy niddordebau yw lliwio/paentio a bod yn greadigol yn gyffredinol. Mae deunyddiau creadigol, fel peintio ar ganfas mawr yn fy helpu i fynegi emosiynau fedrai ddim mynegi ar lafar. Dwi’n mwynhau mynd i goedwigoedd neu barciau cenedlaethol i fynd am dro, casglu creigiau ar draethau ac yn bennaf oll, cymdeithasu ac ymlacio gyda ffrindiau. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Yr effaith fwyaf y mae’r brentisiaeth wedi ei chael arnaf yn bersonol yw fy mod wedi profi i fy hun y gallaf wneud unrhyw beth mae bywyd yn taflu ataf. Er enghraifft, doeddwn i ddim wedi pasio Mathemateg TGAU yn yr ysgol, a doeddwn i byth yn meddwl y bydden i'n gallu ei wneud o, ond gyda chymorth ac ymroddiad tiwtoriaid Hwb Sgiliau Hanfodol yr Urdd - rydw i wedi pasio’r cymhwyster Rhifedd ac wedi cael hwb aruthrol i fy hyder wrth wneud mathemateg sylfaenol a chymhleth. Mae’n gallu bod yn anodd cadw cymhelliant weithiau, ond mae mor fuddiol yn y tymor hir a dyna sy’n bwysig yn y pen draw. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Dal ati i weithio yn y Cylch Meithrin ac efallai gweithio i fyny tuag at lefel goruchwyliwr yn y dyfodol.  

Disgrifia yn fras dy dyletswyddau. 

Mae rhain yn cynnwys canu caneuon hwyliog yn ystod Amser Cylch, gwneud yn siŵr bod y plant yn bod yn greadigol, paratoi byrbrydau a chinio, mynd â'r plant allan i chwarae, a'u helpu nhw i fynd i'r toiled a golchi eu dwylo'n annibynnol. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair! 

Heriol, ysgogol, gwerth chweil! 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Ers dechrau’r brentisiaeth yn 2020, rydw i wedi pasio arholiadau lefel 2 a fy arholiad Mathemateg a rydw i bron wedi cwblhau fy nghwrs lefel 3! Y her fwyaf yn bendant oedd gwneud y cymhwyster rhifedd oherwydd ei fod wedi cymryd peth amser i ffwrdd o fy ngwaith cwrs, ond gyda gwaith caled fe lwyddais i!