Sgwrs gyda Non Owen

Prentis y Mis, Medi 2022

Merch o Fotwnnog ym Mhen Llyn yw Non Owen a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Pont y Gof ac yna ei haddysg Uwchradd yn Ysgol Botwnnog. Cymhorthydd dosbarth yn Ysgol Hafod Lon ym Mhenrhyndeudraeth yw Non, ac mae hi’n hefyd yn brentis Chwaraeon ‘Arwain Gweithgareddau’ gyda’r Urdd.

 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Rydw i’n gweithio yn Ysgol Hafod Lon Penrhyndeudraeth sef ysgol i blant sydd ag anghenion arbennig  ers tair mlynedd. Doeddwn i erioed wedi rhoi fy enw lawr i wneud unrhyw brentisiaeth neu gwrs, felly pan ddaeth y cyfle yma i fyny, roedd yr amser yn iawn a’r pwnc o ddiddordeb i mi a felly mi es i amdani.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Dwi’n mwynhau bob agwedd o fy swydd, nid oes un diwrnod yr un fath a does wybod pa fath o sialensiau sydd yn fy wynebu i yn ddyddiol. Mae’n saff dweud fy mod i yn hoffi sialens. Mae’r prentisiaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar fy ngwaith o ddydd i dydd. Dwi’n fwy parod i fwrw ymlaen gyda chynllunio gwersi, rhoi fy marn a datgelu unrhyw syniadau sydd gennai.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n hoff iawn o siarad, ac mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn i mi. Dydw i ddim yn siarad gymaint o Gymraeg yn yr ysgol oherwydd bod rhan fwyaf o’n plant ni yn dueddol o siarad Saesneg. Mi wnâi wastad drio siarad Cymraeg hefo’r plant oherwydd dwi’n meddwl fod o’n bwysig iawn fod gan blant o leiaf 2 iaith.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Dwi yn berson cymdeithasol a hynny yn aml iawn gyda theulu a ffrindiau. Dwi’n hoff iawn o fynd i gerdded a mynd a’r ci am dro.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Rydw i yn teimlo’n fwy hyderus ar lawr y dosbarth, mae’r prentisiaeth wedi rhoi pethau mewn persbectif gwahanol i mi, megis bod yn fwy ymwybodol o anghenion plant, bod yn ymwybodol o bwysigrwydd addasu gwaith er mwyn adnabod anghenion plant a gwneud yn siŵr fod y plant yn cael y mwyaf allan o wahanol gweithgareddau.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Dwi’n gobeithio ar ôl cwblhau’r prentisiaeth, bydd drysau yn agor i mi, enghraifft o hyn yw efallai mynd ymlaen i wneud cyrsiau gwahanol. Dwi wedi darganfod hyder ynof nad oeddwn yn ymwybodol ohono o’r blaen, a drwy wneud y prentisiaeth yma, dwi wedi sylweddoli fod gennyf y potensial i wneud unrhyw beth dwi’n gallu pan dwi’n rhoi fy meddwl arno.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Rydw i yn gymhorthydd dosbarth, felly rydw i yn helpu’r plant i gyrraedd eu llawn potensial ag hefyd dwi’n helpu’r athrawes drwy wneud tasgau dyddiol.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Bythgofiadwy, Hapus, Profiad newydd!

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Nesi adael ysgol yn 16, a mynd ymlaen i Goleg Meirion Dwyfor Pwllheli, yna mynd i chwilio am waith yn syth. Doedd bywyd prifysgol ddim yn rhywbeth oedd yn apelio atai, ac mae’n saff dweud roedd cyfnod coleg yn heriol oherwydd roedd pawb i weld yn symud ymlaen gyda’u bywydau drwy fynd i brifysgol, a doeddwn i ddim yn mynd i nunlla, felly penderfynais mynd i chwilio am waith mewn ysgol, dyna yw’r peth gora dwi erioed wedi wneud.  Rydw i mor hapus i fod lle ydw i heddiw, rydw i wastad yn ddiolchgar am fy nheulu a’n ffrindiau oherwydd heblaw amdanyn nhw, fyswn ni ddim y person ydw i heddiw - hapus a hyderus. Rydw i dal i wneud camgymeriadau, ond mae rhain yn gwneud fi yn berson ac yn weithiwr gwell, a dwi’n hapus efo ffordd mae pethau yn mynd i mi.