Corfforaethol

Yng Nglan-llyn, rydym yn arbenigo mewn hyfforddiant corfforaethol a phrofiadau adeiladu tîm sy’n ysbrydoli cydweithredu, arweinyddiaeth a lles. Wedi’i leoli yng nghanol harddwch Eryri ac ar lan Llyn Tegid, mae ein cyrsiau’n cyfuno datblygiad proffesiynol gyda chyfleoedd antur awyr agored bythgofiadwy.

Pam Dewis Glan-llyn ar gyfer Hyfforddiant Corfforaethol?

Rhaglenni wedi’u teilwra: Wedi’u cynllunio i gwrdd â nodau unigryw eich sefydliad.
Hyfforddwyr arbenigol: Hyfforddwyr profiadol yn darparu sesiynau effeithiol.
Lleoliad eithriadol: Ar lan Llyn Tegid yng nghanol Gogledd Cymru.
Cyfoeth diwylliannol: Mwynhewch brofiad Cymreig gyda’ch tîm.

 

Ein Cyrsiau Corfforaethol

Gweithgareddau Adeiladu Tîm – Adeiladu ymddiriedaeth, gwella cyfathrebu, a chryfhau perthnasoedd drwy dasgau hwyliog a heriol.
Gweithdai Datblygu Arweinyddiaeth – Sesiynau ymarferol i wella sgil gwneud penderfyniadau, hyder, a meddwl strategol.
Profiadau Antur Awyr Agored – Canŵio, dringo, cyfeiriannu, a saethyddiaeth – perffaith ar gyfer gwydnwch a datrys problemau.
Lles a Myfyrdod – Helpwch eich tîm i 'ail-lenwi' egni nhw gyda gweithgareddau naturiol.

 

Pecynnau Hyblyg

Rydym yn cynnig opsiynau hanner diwrnod, diwrnod llawn, a preswyl, gan gynnwys:

  • Llety cyfforddus
  • Pecynnau arlwyo
  • Amserlen gweithgareddau wedi’u teilwra

Prisiau: Cysylltwch â ni am ddyfynbris wedi’i deilwra yn seiliedig ar faint a gofynion eich grŵp.

 

Corfforaethol