Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y Sulgwyn.

Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu bob blwyddyn mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio.  Rhain yw’r gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y Genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarthol sydd yn cael eu cynnal yn ystod misoedd y gwanwyn cyn yr Eisteddfod.

Canolbwynt yr Eisteddfod yw’r Pafiliwn ble mae’r cystadlu yn digwydd ond yn amgylchynu’r Pafiliwn mae cannoedd o stondinau lliwgar sydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan – o feiciau modur, dringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw a sioeau plant gyda chymeriadau teledu.  Yn ogystal â hyn, gallwch ymweld â’r Arddangosfa Gelf sydd yn gartref i’r holl waith cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yw Eisteddfod – tua 500 o ddarnau o waith! Mewn arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar gan gwmni ymchwil Beauford, roedd 97% o’r ymwelwyr yn cytuno ei fod yn ddiwrnod gwych i’r teulu.

Pinacl tua thair blynedd o waith caled gan wirfoddolwyr o’r ardal leol yw wythnos Eisteddfod yr Urdd. Mae’n cael ei ddarlledu yn helaeth yn y cyfryngau, yn cynnwys y teledu, radio a’r wasg leol a chenedlaethol.

Yn 2022, fe gynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych. Yn 2023 fe gynhelir yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin ac yn 2024 bydd yr Eisteddfod yn mynd ar daith i Faldwyn.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!