Tocynnau Eisteddfod yr Urdd 2026
Eleni, mae'r Eisteddfod yn 7 diwrnod am y tro cyntaf erioed. Bydd yr ŵyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 23 Mai a'n gorffen ar ddydd Gwener, 29 Mai.
Mae Tocynnau Maes, Gŵyl Triban a sioeau Cynradd a Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 bellach ar werth ac ar gael i'w prynu.
Bydd tocynnau hefyd ar gael i'w prynu ar y drws. Nodwch bydd y prisau yn cynyddu ar y 1af o Fai, gwelir y prisiau yma yn y rhestr prisau.
Bydd tocyn Maes dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Sul, 24 Mai hefyd yn rhoi mynediad i Ŵyl Triban.
Bydd eich tocyn yn cael ei anfon atoch dros ebost fel e-docyn. Rydym yn eich annog i ddefnyddio eich tocyn fel e-docyn yn hytrach na'i brintio adref.
Tocynnau Hyfforddwyr | Athrawon: Rydym yn cynnig un tocyn oedolyn am ddim ar gyfer pob 10 tocyn cystadleuydd sy’n cael eu archebu mewn un archeb. Bydd y tocyn yma yn cael ei ychwanegu i’ch basged ar ein system docynnau.
Tocynnau Cyfaill: Os yn archebu tocyn hygyrch, bydd opsiwn i ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i'ch basged.
Rhieni: Awgrymwn eich bod yn gwirio gyda ysgol eich plentyn os ydyn nhw wedi archebu tocyn i'ch plenyn. Ni allwn gynnig ad-daliad.
Ysgolion: Os nad oes gan eich ysgol gerdyn, bydd angen i chi gyflwyno eich archeb erbyn 1 Mai er mwyn i ni allu eich anfonebu.