Cystadlaethau, posau, gwobrau, cartŵns, straeon, jôcs, sêr, llythyron, erthyglau... a mwy!

Helo! Pwy wyt ti?!

Llenwa'r holiadur yma am gyfle i fod yn seren yng nghylchgrawn Cip!

 

MELLTEN yn rhan o Cip!

Ers mis Medi 2020 mae cylchgrawn Cip yn cynnwys cylchgrawn Mellten! Dau gylchgrawn mewn un, yn rhad ac am ddim!

Cafodd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i blant ei gyhoeddi yn 1892.

  • Enw’r cylchgrawn oedd ‘Cymru’r Plant’, ac O.M Edwards oedd yn ei ysgrifennu.
  • Erbyn 1922, mab O.M.Edwards sef Syr Ifan ab Owen Edwards oedd yn ysgrifennu ‘Cymru’r Plant’.
  • Yn 1922, ysgrifennodd Syr Ifan lythyr yn ‘Cymru’r Plant’, yn gwahodd holl blant Cymru i ymuno gyda mudiad newydd o'r enw Urdd Gobaith Cymru Fach... a dyna ddechrau’r Urdd.
  • Yn 1987, penderfynwyd newid teitl ‘Cymru’r Plant,’ a theitl newydd cylchgrawn yr Urdd oedd Cip.

Gyda diolch am y gefnogaeth ariannol i Cip