Ymuna â'r miloedd o blant a phobl ifanc sy'n aelodau o'r Urdd bob blwyddyn!

 

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o weithgareddau i'n aelodau ledled Cymru, o chwaraeon i'r celfyddydau, cystadlu, antur a chymdeithasu - mae rhywbeth i bawb!

Mae Aelodaeth 2023-24 bellach ar agor ac mae croeso mawr i chi!

Bydd PAWB sy’n ymaelodi gyda’r Urdd erbyn 31 Hydref yn derbyn cod arbennig ddechrau Tachwedd i gael 20% i ffwrdd ar HOLL nwyddau’r Urdd.

Y Porth

Clicia yma er mwyn creu aelodaeth o’r newydd neu i fewngofnodi i dy gyfrif ac adnewyddu aelodaeth

Y Porth

Cyngor i unigolion neu deuluoedd

Cyngor pellach ar sut i greu cyfrif gan ddefnyddio ein system aelodaeth ar-lein, Y Porth, er mwyn ymaelodi dy hun, dy blentyn / plant neu deulu gyda’r Urdd.

Cyngor

Cyngor i ysgol, adran neu aelwyd

Cyngor pellach ar sut i greu cyfrif gan ddefnyddio ein system aelodaeth ar-lein, Y Porth, er mwyn ymaelodi gyda’r Urdd ar ran ysgol, adran neu aelwyd.

Cyngor

Fel aelod o'r Urdd, fe fyddi'n rhan o fudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Manteisia ar amrywiaeth eang o gyfleoedd:

  • Gwersylloedd Llangrannog, Glan-llyn, Glan-llyn Isa’, Caerdydd... Cyfle am antur gyda ffrindiau yn ein gwersylloedd.
  • Ieuenctid a Chymuned: Teithiau tramor, celfyddydau, cymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd, adrannau ac aelwydydd a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • Eisteddfod yr Urdd: Cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau sy’n cynnwys canu a dawnsio, trin gwallt a harddwch, creu aps a chomedi stand yp. 
  • Chwaraeon: Rygbi, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, gymnasteg... Mae pob math o glybiau, gweithgareddau a chystadlaethau ar gael drwy’r Gymraeg. 
  • Cylchgronau Cymraeg apelgar, hwyliog ac addysgiadol bellach ar gael yn ddigidol ac am ddim!

Mwy o bethau i wneud gyda'r Urdd