Cwrs Mynydda

Ydych chi'n barod i fynd â'ch cariad at antur i uchelfannau newydd?Mae'r cwrs mynydda yma yn troi yn fforiwr di-ofn o gopaon mawreddog! Paratowch ar gyfer taith fythgofiadwy o her a buddugoliaeth! Addas ar gyfer Bl 7-9

Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn gwrs arbenigol sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 7-9. Mi fydd y cwrs yn cael ei ddarparu rwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw unigolyn os gyda phrofiad neu beidio

Pryd mae'r gwersyll yn dechrau?
Dydd Mercher 3 hyd at Ddydd Gwener 5 Ebrill 2024

Pa mor hir mae'n para?
3 diwrnod, 2 noson

Pris
£225 yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau arbenigol!

Llety a Chyfleusterau
Mae yna ystafell wely “en-suite". Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.

Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

Nol