Prentis y Mis - Mai 2019

Mollie Jones

Mae Mollie yn gynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, ym Morth, Rhondda Cynon Taf. Mae hi hefyd yn brentis allanol yr Urdd fel rhan o gynllun Darpariaeth Prentisiaethau Allanol yr Urdd!

Mae hi wrthi yn astudio i gwblhau Lefel 2 Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, ac yn gobeithio symud ymlaen i gwblhau prentisiaeth Lefel 3 mewn 'Datblygu Chwaraeon' yn y dyfodol. Fe wnaeth Mollie penderfynu ymuno â'r cynllun er mwyn gwella ei sgiliau arwain a dysgu, ac yn sicr y mae wedi llwyddo i wneud hyn!  

"Mae'r prentisiaeth wedi rhoi llawer fwy o hyder i mi wrth gynllunio gwaith papur ac wrth gymryd sesiwn ymarfer corff. Rwy'n teimlo fy mod yn medru creu gweithgareddau hwylus, medrus ac addysgol i blant yr ysgol." - Mollie Jones