Mewn partneriaeth newydd rhwng y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol a’r Urdd mae traciau ymarfer rhai o ddarnau gosod blwyddyn 6 ac iau Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 wedi’u recordio a’u rhoi ar y platfform digidol, Charanga Cymru.

Mae’r adnodd yma am ddim ac ar gael i holl Ysgolion Cynradd Cymru. Y cyfan sydd angen gwneud yw defnyddio’ch manylion i fewngofnodi i blatfform Charanga Cymru. Gall ysgolion sydd dal angen creu cyfrif wneud hynny yma: www.musicservice.wales/site/charanga-cymru-digital-platform.

Mae'n bosib i rieni fewngofnodi trwy gyfrif Charanga y plant, ond bydd angen i'r ysgol rhoi'r caniatad yma iddynt.

Trwy ddarparu’r adnodd gwerthfawr yma, rydym yn gobeithio datblygu’r cyfleoedd sydd gan blant ac athrawon i gymryd rhan ym Mhrif Ŵyl ddiwylliannol ieuenctid Cymru, gan sicrhau bod yr Urdd i Bawb.