Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:

 

  • wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg

  • yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod

  • yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg


Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr rhwng blwyddyn 10 ac 19 oed, sydd yn aelod o’r Urdd. Ceir diffiniad o ‘ddysgwr’ yn Rheolau Cyffredinol y Dysgwyr, tudalen 8 y Rhestr Testunau. Mae croeso i unigolyn sydd wedi dod at y Gymraeg trwy system trochi gystadlu, ond eu bod wedi bod mewn addysg Gymraeg am lai na phedair blynedd.

Sut i gystadlu?

Bydd gofyn i bob cystadleuydd ateb y cwestiynau isod ar glip fideo (dim hwy na 2 funud) ac yn ysgrifenedig ar y ffurflen gais a geir ar wefan yr urdd / trwy e-bostio eisteddfod@urdd.org

1. Brawddeg yn cyflwyno dy hun

2. Oes rhywun yn y teulu yn siarad Cymraeg?

3. Beth yw dy resymau dros ddysgu’r Gymraeg?

4. Sut y dysgaist ti’r Gymraeg?

5. Beth yw effaith dysgu’r Gymraeg ar dy fywyd, a sut wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg?

6. Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol.

Beth nesaf?

Dylid uwchlwytho'r ffurflen gais a'r fideo i'r Porth erbyn Mawrth y 1af 2024