Eisteddfod yr Urdd yw Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop. Mae’r Ŵyl yn ddathliad o’r iaith Gymraeg, y diwylliant a’r cyfoeth o dalent ifanc sydd yng Nghymru heddiw. Bob blwyddyn daw oddeutu 15,000 o blant a phobl ifanc i gystadlu a hyd at 90,000 o ymwelwyr i’r maes.

Lleoliad yr Eisteddfod yn 2025 fydd Parc Margam. Bydd y Parc yn cael ei drawsnewid i fod yn faes byrlymus ar gyfer plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Yn ogystal â’r cystadlu brwd, bydd arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Gelf a Chrefft, a llwyfannau berfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu trwy’r dydd, bob dydd.

Ar Faes yr Eisteddfod yr Urdd ceir arlwy amrywiol sy’n rhoi blas o’r hyn sydd gan yr Urdd i’w gynnig a chynhelir llu o weithgareddau celfyddydol a chwaraeon. Bydd hefyd Gŵyl Triban ar gyfer y rhai sydd yn mwynhau cerddoriaeth byw Cymraeg, digon i ddiddanu pawb.

 Daw plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yn yr 378 o gystadlaethau a gynhelir yn yr ŵyl. Caiff plant lleol hefyd y cyfle i fod yn rhan o’r sioeau, prosiectau a digwyddiadau fydd yn arwain at yr Ŵyl.

Cadwch lygaid allan ar y dudalen yma am fwy o wybodaeth.