Blwyddyn 5 a 6

Mae cyrsiau i flynyddoedd 5 a 6 wedi eu cynllunio fel eu bod yn ennyn brwdfrydedd a herio’r disgybl mewn ffordd all fod yn anodd mewn ystafell ddosbarth. Bydd disgyblion yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau personol a cymdeithasol wrth gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau amrywiol. Mae elfennau megis gweithio gyda eraill, asesu risg, cyfathrebu a hyder mewn eraill yn rhan annatod i unrhyw weithgareddau awyr agored. Caiff rhain i gyd eu cyflwyno mewn awyrgylch hwyl a chyfeillgar gan ein staff cymwysedig.

Nol