O Dy Flaen (Cwrs Perfformio)

Cwrs Perfformio ar gyfer blynyddoedd ysgol 4,5 a 6

Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.

Cwrs perfformio yn ystod yr hanner tymor Chwefror yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd. 
Bydd y cwrs yn cynnwys gweithdau actio, sesiynau sgriptiau, ymweld â rhai o atyniadau celfyddydol y ddinas, cyfle i fynd i Stiwdio Stwnsh a llawer o gemau gwirion!


Mae hwn yn gwrs perffaith i ddod gyda ffrindiau neu i ddod ar ben eich hun ac i wneud ffrindiau newydd.

Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. 

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6 / plant 8-11 oed.

Pryd mae'r cwrs yn dechrau?

Dydd Mercher 14 Chwefror -  16 Chwefror

Pa mor hir mae'n para?

3 diwrnod, 2 noson

Pris

£150 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Llety

Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!

Cyfleusterau

Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.

Bwyd

Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

Iaith

Cynhelir y cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nol