Mae cwrs preswyl yma ar gyfer unigolion sy’n ystyried dilyn llwybr gyrfa o fewn y sector cadwraeth natur a chynaliadwyedd ac eisiau blas ar beth all y sector gynnig. Yn ogystal a chael cyfle i gwrdd â unigolion sydd gyda’r un diddordeb mewn natur a’r amgylchedd, bydd cyfle i aros yng ngwersyll Pentre Ifan sydd wedi’i leoli yng nghanol coedwig hynafol Pentre Ifan ac sydd ar gyrion arfordir Parc Cenedlaethol Sir Benfro.
Pryd: 3-5 Ebrill 2024
Pris: Am ddim! Yn cynnwys llety, gweithgareddau a bwyd.
Yn ystod y cwrs preswyl 3 diwrnod bydd cyfle i wneud y canlynol:
- Dysgu am beth sy’n gwneud cynefinoedd yr ucheldiroedd, y goedwig a’r arfordir yn unigryw a sut mae sefydliadau yn gweithredu i amddiffyn/cyfoethogi rhain i hybu eu bioamrywiaeth a threftadaeth.
- Cael blas ar agweddau o gadwraeth ymarferol – amrywiaeth o arolygon natur, tracio rhywogaethau penodol megis mamaliaid bychain, hybu cynefinoedd adar ac adnabod rhywogaethau.
- Sesiynau ymarferol ar sut fedrwn leihau ein heffaith ar y blaned trwy weithdai ffasiwn cynaliadwy a gwastraff.
- Sesiwn cyffrous o anturio (coasteering) a gwylio bywyd gwyllt arfordirol.
- Clywed cyngor gan gyflogwyr y sector amgylcheddol a’r llwybrau posibl o fewn y byd gwaith amgylcheddol.