Ymunwch â ni am ddeuddydd i roi lle ac amser i'ch myfyrwyr adolygu mewn lleoliad tawel yn rhydd o wrthdyniadau. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys llety, pob pryd bwyd yn ogystal â gweithgareddau lleihau straen fel myfyrdod, teithiau cerdded lles ac ioga. Fydd gennych ddefnydd llawn o’n neuadd hardd, ysbrydoledig a chartrefol yn y Porthdy ar gyfer eich sesiynau adolygu.

 

Esiampl o Amserlen

Diwrnod 1

10:30 Cyrraedd, croeso ac anwytho

11:00 Taith Cerdded Lles yng Nghoedwig Tŷ Canol

12:30 Cinio

13:30 Sesiwn Adolygu (athro i arwain)

15:30 Te

16:00 Sesiwn Rhydd (fedrith myfyrwyr adolygu gyda'i gilydd neu dreulio amser yn siarad a rhannu profiadau)

18:00 Swper

19:00 Crefft Wledig a sesiwn myfyrdod dan arweiniad

21:00 Serydda (os mae tywydd yn caniatáu)

Diwrnod 2

8:00 Brecwast

9:00 Sesiwn Rhydd

10:00 Ioga

10:45 Te/Coffi

11:00 Sesiwn Adolygu (athro i arwain)

12:00 Cinio

13:00 Gwylltgrefft

14:00 Ymadael