295 Ysgoloriaeth Artist Ifanc Bl.10 a dan 25 oed

Thema: Agored

Cyflwyno gwaith Celf, Dylunio neu Dechnoleg mewn unrhyw gyfrwng neu gasgliad o gyfryngau. Rhaid cynnwys detholiad o'r portffolio neu grynodeb ysgrifenedig i gyd-fynd âr gwaith.

Defnyddir yr ysgoloriaeth gwerth £2000 i alluogi'r enillydd i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu yn fuddsoddiad er mwyn ir artist buddugol ddilyn gyrfa yn y maes hwnnw.

301 Y Fedal Gyfansoddi dan 25 oed

Beirniad: Mared Emlyn. Dylid cyfansoddi naill ai:

a. Cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg

b. Rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd

c. Cyfansoddiad i un neu ddau offeryn

ch. Cyfansoddiad i ensemble offerynnol

 

Noddir y gystadleuaeth gan Gyngor Sir Ddinbych

336 Y Gadair Bl.10 a dan 25 oed

Beirniaid: Eurig Salisbury a Peredur Lynch

Cerdd neu gerddi caeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Diolch’. 

Ni chaniateir anfon gwaith sydd wedi ei gyhoeddi yn rhannol nac yn gyfan mewn unrhyw gyfrwng, nac sydd wedi ei wobrwyo, neu sydd wrthi yn cael ei ystyried mewn cystadleuaeth arall, i gystadlaethau'r Gadair a'r Goron.

Noddwyd gan Ymddiredolaeth Ivor ac Aeres Evans

351 Y Goron Bl.10 a dan 25 oed

Beirniaid: Sian Northey a Gwenno Mair Davies

Darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Llen / Llenni'.

Ni chaniateir anfon gwaith sydd wedi ei gyhoeddi yn rhannol nac yn gyfan mewn unrhyw gyfrwng, nac sydd wedi ei wobrwyo, neu sydd wrthi yn cael ei ystyried mewn cystadleuaeth arall, i gystadlaethau'r Gadair a'r Goron.

Noddir gan Grwp Cynefin

365. Medal Bobi Jones Bl.10 - 19 oed

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:

• wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg

• yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod

• yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg

 

Noddir gan Prifysgol Caerdydd

Dysgu Mwy

366. Medal y Dysgwyr 19 - 25 oed

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:

• wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg

• yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod

• yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg

Dysgu mwy

374 Y Fedal Ddrama Bl.10 a dan 25 oed

Cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

Beirniaid: Llinos Gerallt a Sian Naiomi

Noddir gan Gyngor Tref Dinbych

Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Dyfarnir Y Fedal CDT i’r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno gwaith mwyaf addawol o blith holl gynnyrch Bl.10 a dan 19 oed sy’n cyrraedd y rownd Feirniadu Cenedlaethol.

Canlyniadau Prif Seremoniau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Darllenwch yma!