Sut galla i gefnogi?
Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i'r gronfa, ac mae hi'n broses hawdd a chyflym:

1. Cyfraniad un tro trwy PayPal neu gerdyn credyd / debyd

2. Cyfrannu mewn rhandaliadau misol trwy PayPal - £20 y mis dros gyfnod o 9 mis.

3. Sefydlu taliad uniongyrchol misol i'r Gronfa (gan ddewis y swm)

4. Anfon siec yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru

5. Tudalen Justgiving Cronfa Cyfle i Bawb.

Faint galla i roi?
Ar hyn o bryd, gofynnwn yn garedig am nawdd o £180. Byddai hyn yn gyfraniad sylweddol am wyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn, Caerdydd neu Pentre Ifan. 

Pecynnau nawdd i gwmnïau a busnesau
Mae sawl pecyn ar gael:

  • £180 yn noddi lle i 1 plentyn
  • £500 yn noddi lle i 3 plentyn
  • £1000 yn noddi lle i 6 plentyn
  • £5000 yn noddi lle i 30 plentyn

Gallwch wneud cyfraniad drwy unrhyw un o’r dulliau uchod neu gallwn eich anfonebu.

I drafod y pecynnau cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

Am beth bydd fy arian yn talu?
Yn ogystal a thrafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn am 5 diwrnod, bydd eich cyfraniad yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes!

Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn fuan yn 2024 byddwn yn derbyn ceisiadau am le ar wyliau gwersyll ar gyfer yr haf. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad trwy gylchlythyr blynyddol i ddangos i chi sut mae eich cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth, ac i gydnabod eich cyfraniad hael byddwch hefyd yn derbyn: 

  • Bathodyn pin cyfrannwr
  • Gwahoddiad i’r gwersylloedd neu i ddigwyddiad arbennig
  • Cerdyn post o’r gwersyll
  • Tystysgrif (i gwmnïau)
  • Graffeg i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol (i gwmnïau)
  • Cydnabyddiaeth ar wefan a chyfryngau cymdeithasol yr Urdd (cyfraniadau dros £500)