Nawdd Corfforaethol

Mae’r Urdd wedi bod yn ffodus i ddatblygu perthynas hir-dymor a llwyddiannus gyda nifer o fusnesau mwyaf blaenllaw Cymru, gan esgor ar gyfleoedd heb eu hail i blant a phobl ifanc

Pam creu partneriaeth gyda'r Urdd?

Mae gan yr Urdd brofiad helaeth o gydweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid corfforaethol.  Rydym fel mudiad yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth bwysig. Gellir gweld rhestr lawn o'n partneriaid yma

Fel elusen gofrestredig rydym yn edrych yn barhaus i gynyddu ar ein partneriaethau gyda sefydliadau yng Nghymru, yn arbennig yng nghyd-destun ein digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a Gemau Cymru. 

Gyda dros 50,000 o aelodau, yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru.  Drwy bartneriaethau, gall yr Urdd gynorthwyo busnesau i gael effaith positif yn eu cymunedau.  Rydym hefyd yn falch o allu cynnig buddiannau a chyfleoedd hyrwyddo pwysig i’n cefnogwyr corfforaethol.

Mae partneriaeth gyda’r Urdd yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a phroffil eich sefydliad ar hyd a lled Cymru gan gynnig cefnogaeth hanfodol i’r Urdd yn ogystal.

Cyfleoedd i noddi:

Y Celfyddydau: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Uchafbwynt gweithgareddau blynyddol yr Urdd ydy Eisteddfod yr Urdd - Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop. 

Mae’r ŵyl ddiwylliannol hon yn denu 15,000 o gystadleuwyr, 90,000 o ymwelwyr yn ogystal â chynulleidfa eang ar deledu a radio.  Mae S4C yn darlledu dros 80 awr yr wythnos a darllediadau dyddiol ar Radio Cymru o’r maes. Nid yn unig yn y Gymraeg y caiff y sylw gan fod Radio Wales hefyd yn darlledu ac fe geir tudalennau dyddiol yn y wasg mewn papurau megis y Western Mail a’r Daily Post.

Mae ystod eang o becynnau nawdd ar gael, sy’n caniatáu noddi pob math o elfennau - o gystadlaethau ar y llwyfan, sioeau a chyngherddau, i noddi ardaloedd penodol o’r maes.  Fel rhan o’r pecynnau hyn gallwn drafod cynnwys ystod o fuddiannau marchnata i’ch cwmni neu sefydliad.

Chwaraeon: Gemau Cymru

Bob blwyddyn mae dros 30,000 o blant yn cyfranogi yng ngweithgareddau chwaraeon yr Urdd ar hyd a lled y wlad. 

Heb os, uchafbwynt y cystadlu hyn ydy Gemau Cymru: penwythnos cyffrous o gystadlaethau chwaraeon cenedlaethol sy’n cael ei gynnal ym mis Gorffennaf mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd.

Daw oddeutu 1,000 o athletwyr ifanc gorau Cymru i gystadlu yn y Gemau, sydd bellach wedi eu sefydlu fel rhan annatod o lwybr datblygiad athletwyr ifanc ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae nawdd corfforaethol yn allweddol i lwyddiant y digwyddiad.  Caiff noddwyr fuddiannau marchnata, hyrwyddo a rhwydweithio pwysig.  Hyrwyddir y digwyddiad drwy ein partneriaethau a darlledir rhaglen uchafbwyntiau ar S4C.

Gwaith yr Urdd yn y Gymuned

Gyda 50,000 o aelodau 900 o aelwydydd a changhennau dros y wlad, mae’r Urdd yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau celfyddydol, chwaraeon a hamdden drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob ardal o Gymru, gan gynnwys:

  • Cystadleuaeth Rygbi Cenedlaethol
  • Cystadlaethau Rhanbarthol
  • Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth
  • Hyfforddiant i bobl ifanc ar feysydd perthnasol iddyn nhw

Gall cefnogaeth gan gwmnïau sicrhau ein bod yn gallu buddsoddi mwy yn y digwyddiadau hyn, gan wella’r profiad a’r ddarpariaeth y gallwn gynnig. Gall pecynnau nawdd amrywiol yr Urdd gael eu teilwra i gyd-fynd â’ch amcanion marchnata a'ch cyllideb. 

Noddwyr Cyfredol

Diolch i holl noddwyr yr Urdd am ein cynorthwyo i ddarparu profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Cymru.