Gwirfoddoli

Mae gennym nifer helaeth o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn y mudiad;

Gwirfoddoli gyda'r Urdd

Bob blwyddyn, mae hyd at 10,000 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi gweithgareddau’r Urdd. 

Yn feirniaid Eisteddfod, yn hyfforddwyr pêl-droed, cerdd dant neu lefaru, yn athrawon, rhieni, cyn-aelodau, arweinwyr aelwyd neu’n bobl ifanc...  Hebddynt, ni fyddai’r Urdd yn bodoli yn ei ffurf bresennol, ac mae ein diolch iddynt yn ddirfawr.

Os hoffech gefnogi gwaith yr Urdd yn eich ardal leol, mae mwy o weithgareddau lleol ar gael yma 

Gallech wirfoddoli gyda;

  • Clybiau/Adrannau/Aelwydydd yr Urdd
  • Clybiau a Gweithgareddau Chwaraeon
  • Teithiau undydd a thramor
  • Eisteddfod yr Urdd yn eich ardal
  • Gwersylloedd yr Urdd fel SWOG

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda'ch Swyddog Datblygu neu Chwaraeon lleol.

Mwy o wybodaeth am sut i wirfoddoli gyda'r Urdd

Dysgu mwy