Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?

Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel.

Gellir gwneud y broses yma trwy ysgol eich plentyn neu yn uniongyrchol drwy’r rhieni / gwarcheidwaid. 

Pwy sy’n gymwys?

  • plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
  • plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu
  • plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
  • plentyn/person ifanc yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o Gwrs Haf yn un o Ganolfannau’r Urdd. 

Beth yw’r cynnig?

Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs, ac hefyd trafnidiaeth i’r Gwersylloedd. Gweld cyrsiau 2024.

Beth sy’n digwydd nesa?

Y dyddiad cau yw dydd Llun 22 Ebrill 2024.

Bydd y panel yn cwrdd ac yn asesu’r holl geisiadau am y tro cyntaf ac yn dyrannu llefydd. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan bwyllgor llywio sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Canolfannau yr Urdd, un o Ymddiriedolwyr yr Urdd ac aelod ifanc o'r byrddau.

Mae nifer y lleoedd fydd ar gael yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir, felly bydd pob cais yn cael ei asesu a dyrennir y lleoedd i’r rhai hynny sy’n cwrdd orau â’r meini prawf. Nod yr Urdd yw dyrannu 300 o lefydd ledled yr 18 cwrs sydd ar gael.

Bydd y panel yn rhoi gwybod i rieni/ysgolion beth yw’r canlyniad erbyn y 1 o Fai.