Sut ydw i’n archebu tocynnau Eisteddfod yr Urdd?

Mae'r holl docynnau ar gael i archebu yma

Ydw i’n gallu hawlio tocynnau incwm is am ddim?

Mae manylion yma am docynnau incwm is a sut i'w hawlio.

Beth yw pris y tocynnau?

Mae prisiau’r tocynnau i’w gweld yma

Bydd prisiau'r tocynnau yn newid?

Bydd y prisiau yn cynyddu ar y 19 o Fai, cipia docyn cyw cynnar cyn hynny!

 Ydw i’n gallu prynu tocyn ar y drws?

Wyt, ond bydd y prisiau yn cynyddu ar 19 Mai -felly gwna'r mwyaf o'r cynnig Cyw Cynnar!

Ydw i’n cael dod â fy nghi i'r Maes?

Na, dim ond cŵn tywys a chymorth sy’n cael bod ar y Maes.

 

 

Sut ydw i’n cyrraedd y Maes?

Dyma dudalen defnyddiol i ti yma!

Ydw i’n cael dod a alcohol i’r Maes?

Nac wyt, ond bydd bar ar y Maes rhwng y 30/05 a'r 01/06 ar gyfer Gŵyl Triban.

Dwi’n ofalwr, ydw i’n cael tocyn am ddim?

Wyt. Wrth archebu tocyn anabl ar ein system docynnau, gellir ychwanegu tocyn cyfaill am ddim. 

Ydw i angen printio fy nhocyn?

Nac wyt, rydym yn annog i chi ddefnyddio eich tocyn fel e-docyn ar eich ffôn.

Ydw i angen talu am barcio yn yr Eisteddfod?

Nac wyt, mae meysydd parcio yr Eisteddfod am ddim.

Faint o'r gloch mae'r Maes yn agor pob dydd?

Bydd y Maes yn agor am 7.45yb rhwng y 27 o Fai a'r 1af o Fehefin.

Pryd ydw i'n derbyn fy nhocyn?

Bydd dy docynnau yn cael eu hanfon atat dros ebost yn dilyn dy archeb. Os wyt ti'n archebu tocynnau incwm is, bydd rhain yn cael eu hanfon atat dros ebost yn nes at amser yr Eisteddfod.

Sut ydw i'n gweld amserlen y Maes?

Bydd modd i ti weld amserlen holl gystadlaethau a gweithgareddau y Maes ar ein ap.

Bydd yr ap allan yn fuan!

Pa gyfleusterau i bobl ag anabledd sydd ar y Maes?

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

- Maes parcio Bathodyn Glas ger y Ganolfan Groeso
- Toiledau anabl
- Cyfleusterau newid ger y Ganolfan Groeso a chyferbyn yr Adlen

Mae hefyd llwybrau metal ('trackways') ar hyd y Maes sy'n arwain at stondinau a'r Pafiliynau. Oherwydd cyfyngiadau'r lleoliad a'r ffaith ei fod yn cymryd lle ar gae fferm, does dim llwybrau yn arwain at rhai stondinau.

Os oes unrhyw beth yn codi a hoffech gymorth, gofynnwch i aelod o staff yr Urdd (mewn cortyn gwddf coch) neu aelod o'r tîm diogelwch (mewn festiau 'hi-vis' gwyrdd).

Ydw i'n cael ysmygu ar y Maes?

Nid ydym yn caniatau unrhyw un i ysmygu ar Faes yr Eisteddfod. 

Oes gwasanaeth BSL ar y Maes?

Byddwn yn cynnig gwasanaeth BSL ar y Maes. Os ydych chi angen gwasanaeth BSL ar gyfer unrhyw gystadleuaeth / gweithgaredd penodol ar y Maes, cysylltwch gyda'n swyddog hygyrchedd ar oliverg-s@hotmail.co.uk