Ysgoloriaeth Geraint George

 Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2024

Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

Ysgoloriaeth Geraint George

Mae’r Rheolau Cyffredinol ym mlaen y Rhestr Testunau hefyd yn berthnasol i’r adran hon.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am y diweddar Geraint George. Nod yr ysgoloriaeth sy’n agored i unigolion 18-25 oed yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru, a thu hwnt, i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno. Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru

Bydd yr enillydd yn cael dewis un o ddau opsiwn:

i. Ymweliad wythnos â Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia ble ceir cyfle i ddysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

ii. Mynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn, ble ceir cyfle i ddysgu am waith sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd ac ymweld â safleoedd.

Gwahoddir gwaith ar ffurf unrhyw un, neu gyfuniad o’r canlynol:

  • Ffilm fer [1–3 munud] 
  • Taflen(ni) [hyd at 3]
  • Blog [wythnos fan lleiaf] 
  • Ysgrif(au) [hyd at 3]
  • Eitem sain [1–3 munud] 
  • Stori/straeon [hyd at 3]
  • Erthygl(au) [ hyd at 3] 
  • Cartwnau [hyd at 6]
  • Poster(i) [hyd at 3]


Wrth gofrestru, rhaid uwchlwytho'r gwaith  erbyn 1 Mawrth 2024

COFRESRTU I GYSTADLU YMA