Dros dymor yr Hydref eto eleni, daeth 9 tîm o feirdd ifanc rhwng 14 a 25 i gystadlu yn Nhalwrn yr Ifanc.

Mewn partneriaeth a BBC Radio Cymru a Llenyddiaeth Cymru, roedd beirdd ifanc ar draws Cymru yn gorfod cwblhau cyfres o dasgau arbennig wedi’u gosod gan ein Meuryn, Gruffudd Owen.

Derbyniodd y timoedd sesiynau mentora gan Feirdd ifanc Cymru, er mwyn ymateb i’w tasgau, ac ychwanegwyd un her ychwanegol eleni, sef Tasg ar y Pryd a chwblhau llinell olaf Limrig.

Ysgol Llanhari ddaeth i frig y gystadleuaeth eleni ar ol curo Ysgol Preseli ac Ysgol Bro Pedr yn y rownd derfynol. 

Cafodd y rownd derfynol ei ddarlledu ar raglen Al Hughes ar BBC Radio Cymru ac mae modd gwylio'r holl rowndiau Talwrn yr Ifanc 2021 yma - https://www.amam.cymru/urddgobaithcymru

Gwrandewch yn ôl ar Rowndiau 2020 - https://www.amam.cymru/urddgobaithcymru