Alldeithiau

Canwio

Mae gan staff y gwasanaeth brofiad helaeth o arwain alldeithiau canŵio mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad. Gall alldeithiau amrywio o daith diwrnod i daith sydd yn para sawl sawl diwrnod. Yn ystod y daith ganŵio mae modd datblygu sgiliau technegol canŵio gan gynnwys agweddau diogelwch dŵr, gwersylla a choginio.  

glanlyn-activities.jpg

Mynydda

Boed yn dringo mynyddoedd neu yn teithio dros dir a llwybrau, gall y gwasanaeth deilwra taith yn arbennig ar gyfer eich grŵp chi. Yn ystod y daith mae unigolion yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau map a chwmpawd, camu ac amseru, gwersylla a choginio (os yn daith mwy na un diwrnod).

mynydda_-_text.jpg

Tramor

Mae’r gwasanaeth yn datblygu eu darpariaeth er mwyn cynnal alldeithiau mewn gwledydd tramor. Bydd alldeithiau tramor ar gael yn fuan. Cysylltwch a’r gwasanaeth am fwy o wybodaeth