Cerdded Afon

Ydych chi erioed wedi dringo rhaeadr?? Ac wedyn neidio i ffwrdd? Os ddim, ac os oes diddordeb gennych mewn Antur, gall hwn fod y gweithgaredd i chi!!

Mae cerdded afon yn cyfuno elfennau o ddringo, sgramblo a dŵr gwyn i greu gweithgaredd antur dwr ar gyfer pob lefel gallu. Gall gynnwys nofio neu arnofio lawr dwr gwyn, sgramblo dros bowlderi ar lawr yr afon, dringo trwy neu i fyny rhaeadrau a gorffen wrth neidio oddi wrth greigiau sydd mor uchel â 20 troedfedd mewn rhai lleoliadau!

Mae gennym amryw o leoliadau o gwmpas De Cymru, gyda rhai yn lefydd mwyaf anghysbell y wlad.

Gallwn deilwra lefel yr antur i siwtio gallu eich grŵp yn ogystal â gweithio tuag at sgiliau penodol megis gweithio fel tîm, cyfathrebu, sgiliau arwain, addysg amgylcheddol neu yn syml i ymarfer siarad Cymraeg

Gallwn redeg sesiynau ychydig oriau neu diwrnodau cyfan, fel rhan o gyfres o sesiynau anturus neu yn ddiwrnod annibynnol. Mae’n cyfuno’n dda gyda gweithgareddau a gwobrau eraill y gwasanaeth, megis Gwobr John Muir, unedau BTEC a chymwysterau ac achrediadau Agored Cymru.

Cofiwch, mae Cerdded Afon yn agored i bawb a gallwch greu atgofion i barau am oes!

Nol