Dringo

Yn ogystal â sesiynau blasu dringo allanol a dan do, gallwn hefyd gynnal cyrsiau penodol sydd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau dringo. Rydym hefyd yn cynnig achrediad penodol ar gyfer dringo dan do sef gwobr NICAS. Cynigir yr achrediad yma mewn partneriaeth â nifer o ganolfanau dringo dan do yng Ngogledd Cyrmu.

 

 

Dewch i ddringo yng ngwersyll Glan-llyn ar ein wal ddringo allanol neu yng nghanolfan Beacon, Caernarfon. Dysgwch trwy gemau a sialensiau hwylus, mewn awyrgylch Cymraeg. Gallwn ddarparu helmed a harnes i chi fenthyg.

Wedi dringo o'r blaen? Dim problem!

Dewch i ddatblygu eich sgiliau efo hyfforddwyr profiadol yn y gwersyll neu mewn canolfan dringo allanol.

Nol