Arfordira

Datblygwyd yn yr 80au fel ffordd o archwilio glannau garw Gorllewin Cymru, mae Arfordira wedi dod yn ffenomen poblogaidd. Bydd angen nofio, sgramblo, cerdded a neidio i gwblhau eich antur Arfordira. Mae gennym leoliadau o gwmpas De a Gorllewin Cymru, gyda’r enwog ‘Blue Lagoon’ yn un o’n prif leoliadau, i chi ddod am Antur ar y llanw gyda ni.

Gallwn deilwra lefel yr antur i siwtio gallu eich grŵp yn ogystal â gweithio tuag at sgiliau penodol megis gweithio fel tîm, cyfathrebu, sgiliau arwain, addysg amgylcheddol neu yn syml i ymarfer siarad Cymraeg

Gallwn redeg sesiynau ychydig oriau neu diwrnodau cyfan, fel rhan o gyfres o sesiynau anturus neu yn ddiwrnod annibynnol. Mae’n cyfuno’n dda gyda gweithgareddau a gwobrau eraill y gwasanaeth, megis Gwobr John Muir, unedau BTEC a chymwysterau ac achrediadau Agored Cymru.

Cofiwch, mae Cerdded Afon ac Arfordira yn agored i bawb a gallwch greu atgofion i barau am oes!

Nol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch â ni