Antur Fach

Dewch am Antur Fach efo ni! Gallwn drefnu antur i'ch dosbarth o fewn tafliad carreg i'r ysgol!

Antur Fach!

Anturiaethau byr y gellir eu cyflawni yn eich ardal leol neu ar dir yr ysgol. Bwriad Antur Fach yw datblygu dealltwriaeth dysgwyr o'u cynefin naturiol a diwylliannol. Gallwn greu rhaglen sydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer anghenion/gofynion eich ysgol gan wneud defnydd o’r lleoliadau sydd ar gael yn eich ardal. 

Bydd yr holl ddarpariaeth ar gael yn y Gymraeg gan sicrhau ein bod yn cyfateb a gofynion eich ysgol ar gyfer eich targedau Siarter Iaith. 

Am fwy o wybodaeth am y math o weithgareddau allwn ni gynnig cysylltwch â ni.

Cysylltwch