Yn ogystal â sesiynau blasu dringo allanol a dan do, gallwn hefyd gynnal cyrsiau penodol sydd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau dringo. Rydym hefyd yn cynnig achrediad penodol ar gyfer dringo dan do sef gwobr NICAS. Cynigir yr achrediad yma mewn partneriaeth â nifer o ganolfanau dringo dan do yng Ngogledd Cymru.

Lleoliadau
Rydym yn defnyddio nifer o leoliadau ar gyfer ein sesiynau dringo. Mae nifer o ffactorau yn gallu dylanwadu p graig fydd yn cael ei ddefnyddio ar y dydd fel tywydd a pha mor lleol yw'r graig i'r grŵp.
Dyma'r math o leoliadau rydyn ni'n defnyddio-

