
Gogledd Cymru - Eryri
Ymunwch â ni ar becyn Alldaith Agored Aur dros wyliau’r Haf eleni. Bydd yr alldeithiau’n cael eu cynnal yn y Parc Cenedlaethol yn Eryri.
Mae pris ein pecyn Agored Aur yn dechrau o £405 y pen, neu os ydych eisoes wedi cwblhau’ch alldaith hyfforddiant, gallwch gofrestru ar gyfer ein alldaith gymhwyso Aur ym mis Awst am £230. Mae’r pris yn cynnwys ffioedd gwersylla, llogi offer, a chludiant yn ystod yr alldeithiau.
Edrychwch ar y dyddiadau isod a chofrestrwch i gadw lle!


Ydych chi wedi cofrestru am Y Wobr Dug Caeredin ond yn ansicr sut neu ble i wneud eich alldeithiau? Ymunwch â ni ar Alldaith Agored efo bobl ifanc eraill i gwblhau eich alldeithiau Dug Caeredin yng nghanol mynyddoedd Cymru!
Cofrestru yma!

De Cymru - Bannau Brycheiniog
Ymunwch ar Alldeithiau Agored Aur sy'n rhedeg yn 2025 yn Nhe Cymru. Bydd yr alldeithiau yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y diwrnod hyfforddiant yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill, gan gynnwys staff yr Urdd.
Pris ar gyfer popeth yn dechrau o £405yp, sy'n cynnwys offer*, ffioedd gwersyll a chludiant. Bydd angen i chi trefnu bwyd eich hun ac offer personol.
Edrychwch ar y dyddiadau isod a gofrestrwch i gadw le!
*Offer i fenthyg yn cynnwys: pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd

