Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, Lefel 2

Teitl y Swydd: Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerffili

                        Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerdydd

                        Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerfyrddin

               Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Gwynedd ac Ynys Mon (2 swydd)                 

Math o gontract: 13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Prentis Blwyddyn 1 (£12,394 y flwyddyn)

Lleoliad: Gweler uchod ac yn y swydd ddisgrifiad

 

Prif bwrpas y swydd:

Cyfle i unigolyn gyda diddordeb mewn chwaraeon i ymgymryd â phrentisiaeth o fewn Adran Chwaraeon yr Urdd.

 

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol mewn gweithgaredd  chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y swydd hefyd yn hybu amrywiaeth a chynhwysiant drwy weithio’n agos gyda’r Swyddog Datblygu Chwaraeon, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis sef Pennaeth Prentisiaethau ar catrindavis@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org

 

Dyddiad Cau: 03/05/24

Dyddiad Cyfweld : w/c 13/05/24

 

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.