Teitl y Swydd: Hyfforddwr Awyr Agored
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) NEU yn agored i drafod unrhyw batrwm gwaith hyblyg.
Graddfa: Gweithredol 3 - £24,942 - £27,191
Lleoliad: Gwersyll Glan-llyn
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Darparu gwasanaeth cyflawn a phroffesiynol fel y gall y cwsmeriaid fwynhau amrediad eang o weithgareddau diogel, cyffrous sy’n cynnig cyfleoedd a phrofiad dwyieithog, cymdeithasol ac addysgiadol i blant a phobl ifanc.
I chwarae rhan arwyddocaol yn weithrediad a datblygiad y gweithgareddau a rhediad esmwyth y gwersyll.
Darparu gweithgareddau ar ran Gwasanaeth Awyr Agored Glan-llyn (GAA). Bydd cyfran helaeth o’r sesiynau hyn oddi ar safle’r gwersyll.
Hyfforddi a mentora hyfforddwyr a phrentisiaid yn y gwersyll mewn sgiliau awyr agored.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Iwan Rhys sef Rheolwr Adran Weithgareddau Glan-llyn ar iwanrhys@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 06/05/2024
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.