Diddordeb mewn dod i Wersyll Haf eleni? Archebwch eich lle heddiw!

Mae Gwersylloedd Haf yr Urdd yn cynnig anturiaethau i blant a phobl ifanc dros wyliau’r haf yn annibynnol o’u rhieni neu warchodwyr. Dewiswch o dri gwersyll eiconig yr Urdd (Llangrannog, Caerdydd a Glan-llyn) lle mae’r gweithgareddau’n amrywio o gyrsiau antur i gyrsiau creu a pherfformio. 

Gyda’n Gwersyll Haf cyntaf un yn Llangrannog yn 1932, mae plant a phobl ifanc wedi dod i brofi anturiaethau’r Urdd ers 90 o flynyddoedd. Archebwch le heddiw a dewch gyda ni am y 91ain tro.

Mae’r Urdd yn cynnig cymorth ariannol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu mwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol. Gallwch wneud cais i'r Gronfa Cyfle i Bawb i dalu am unrhyw un o'n Gwersylloedd Haf.

Nodyn: mae cyrsiau Glan-llyn a Llangrannog bellach yn llawn, ond mae dal argaeledd ar rai o gyrsiau Gwersyll Caerdydd.

Cwrs Creu

Gwersyll Caerdydd

22 - 25 Awst 2023

11 - 14 oed

Dysgu mwy

Gŵyl Hwyl Diwedd yr Haf

Gwersyll Caerdydd

29 - 31 Awst 2023

8 - 11 oed

Dysgu mwy

Cronfa Cyfle i Bawb

Mae Cronfa Cyfle i Bawb yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndirneu eu hamgylchiadau ariannol.  

Dysgu mwy