Rheolwr Sgiliau ac Anawsterau Dysgu Ychwanegol

Teitl y Swydd:  Rheolwr Sgiliau ac Anawsterau Dysgu Ychwanegol

Math o gytundeb:  Swydd barhaol

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 6: £35,912 - £41,906 y flwyddyn

Lleoliad:  Swyddfa Bangor, Llangefni, Llangrannog neu Caerdydd (Llanisien)

Dyddiad Cau:  21 Ionawr 2026

Dyddiad Cyfweld:  w/c 26 Ionawr 2026

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Dyma gyfle i unigolyn ymuno a thîm rheoli Dysgu ac Addysgu Adran Prentisiaethau’r Urdd. Byddech yn gyfrifol am reoli holl waith ‘sgiliau’ yr adran ac yn arwain ar ein cynnig cymorth anghenion dysgu ychwanegol. Byddech hefyd yn gyfrifol am reoli agweddau eraill o’n darpariaeth o fewn y sectorau, chwaraeon, gofal plant, hamdden, addysg, gwaith ieuenctid ac awyr agored.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) ar 07930 964625 neu catrindavis@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org